Mae 92 o arweinwyr a chyn-arweinwyr gwleidyddol ar draws y byd yn galw am ymateb economaidd byd-eang i’r coronafeirws.

Ymhlith yr awgrymiadau sydd wedi dod i law mae creu gweithgor G20 a sefydlu cynhadledd i roi sêl bendith i gronfa ariannol gwerth biliynau o ddoleri a’i chydlynu.

 

Mae llythyr agored yn annog arweinwyr presennol gwledydd y G20 i sicrhau sefydlogrwydd ariannol i gyrff rhyngwladol fel Sefydliad Iechyd y Byd.

 

Mae’n rhybuddio na fydd yr argyfwng economaidd ar draws y byd yn gwella “hyd nes bod datrysiad i’r argyfwng iechyd”, a bod rhaid i’r datrysiad hwnnw fod yn un rhyngwladol.

Mae’r arweinwyr hefyd yn galw am gyflymu’r broses o ddod o hyd i frechlyn coronafeirws a thriniaethau eraill.

Maen nhw’n awyddus i sicrhau wyth biliwn o ddoleri yn y lle cyntaf – biliwn ar gyfer Sefydliad Iechyd y Byd, tair biliwn ar gyfer brechlyn a 2.25bn ar gyfer therapïau.

 

Ond maen nhw’n rhybuddio y gall fod angen cyfanswm o 35 biliwn o ddoleri i gefnogi gwledydd llai llewyrchus.