Mae Prif Weinidog Japan, Shinzo Abe wedi dweud y bydd yn cyhoeddi stad o argyfwng yn Tokyo mor fuan a dydd Mawrth er mwyn mynd i’r afael a coronafeirws, ond ni fydd lockdown llym yno.

Dywedodd y Prif Weinidog hefyd y bydd y llywodraeth yn lansio pecyn gwerth 108 triliwn yen i helpu’r economi o ganlyniad i’r pandemig, gan gynnwys taliadau arian parod i deuluoedd mewn angen a chefnogi i warchod busnesau a swyddi.

Bydd y stad o argyfwng yn ymestyn dros Tokyo, Osaka, Fukuoka a phedair ardal arall sydd wedi eu taro’n wael gan y firws. Bydd y mesurau hyn ar waith am oddeutu mis meddai Shinzo Abe.

Bwriad y mesurau

Yn ôl y Prif Weinidog bydd yn cynnal cynhadledd i’r wasg ddydd Mawrth (Mawrth 7) er mwyn egluro ymhellach.

Dywedodd mai’r bwriad yw atgyfnerthu ymbellhau cymdeithasol ac arafu lledaeniad y firws, a pharau i gadw gweithgareddau cymdeithasol ac economaidd i gyn lleied â phosib.

Bydd dinas Tokyo yn dechrau ar y gwaith o symud cleifion gyda dim neu ychydig o symptomau o’r ysbytai i westai er mwyn gwneud lle i fewnlifiad o gleifion gyda symptomau difrifol.

Cadarnhaodd Gweinidog Iechyd Japan 3,659 o achosion cadarnhaol o’r coronafirws, gan gynnwys 84 o farwolaethau.