Gwlad Tai ac ardal y llifogydd
Mae’r awdurdodau yng Ngwlad Tai yn poeni y bydd llanw uchel dros y Sul yn achosi rhagor o lifogydd ym mhrifddinas y wlad, Bancoc.

Roedd lefel yr afon Tsao Phaia, sy’n llifo trwy’r ddinas, yn uwch nag erioed dros nos gan gyrraedd 2.46 metr yn uwch na lefel y môr ond fe ddaliodd yr amddiffynfeydd sydd wedi eu codi er mwyn gwarchod yr adeiladau rhag y dwr. Er hyn mae sawl stryd ar lan yr afon o ardal Treftseina i lawr i deml y Bwda Emrallt dan droedfeddi o ddwr ac mae saith allan o 50 o ardaloedd Bancoc dan lifogydd dyfnion.

Mae trigolion y brifddinas a chynrychiolwyr llywodraethau tramor yno yn parhau i adael y brifddinas oherwydd y peryg o lifogydd ond hefyd oherwydd prinder bwyd a thrafferthion trafnidiaeth.

Mae awdurdodau’r wlad wedi gofyn am gymorth gan yr Unol Daleithiau i gynnal arolwg o’r llifogydd ac mae dau hofrennydd Seahawk o’r llong USS Mustin eisoes wedi cychwyn ar y gwaith o asesu’r difrod a’r peryg.

Tri mis o lawogydd monswn di-baid sydd wedi achosi y llifogydd gwaethaf yng Ngwlff Gwlad Tai ers dros hanner canrif. Mae’r dwr wedi llifo yn araf o wastadeddau canol y wlad tua’r brifddinas ers wythnosau gan ladd dros 400 o bobl a gwneud dros 110,000 yn ddi-gartref.

Er hyn, yn ei hannerchiad wythnosol ar y radio, dywedodd y Prif Weinidog Yinluc Shinawatra bod pethau yn gwella yn ara’ deg yng nghanolbarth y wlad i’r gogledd o Bancoc.

“Mae’n newyddion da bod lefel y dwr yn araf ostwng,” meddai “ac rydw i yn ddiolchgar i bobl ond yn gofyn iddyn nhw fod yn amyneddgar am fod rhagor o beryg dros y Sul oherwydd y llanw uchel.”

Ychwanegodd  bod y llywodraeth eisoes wedi rhoi cynllun ar waith i gyflymu’r broses o ddraenio’r dwr a dywedodd y dylai’r llifogydd gilio o’r ardal o gwmpas Bancoc erbyn wythnos gyntaf mis Tachwedd.