Mae llong yn cludo 12 o bobol sydd wedi profi’n bositif ar gyfer y coronafeirws wedi cyrraedd y lan yn ninas Miami yn Fflorida.

Mae’r Coral Princess, un o longau cwmni Princess Cruises, yn cludo 1,020 o deithwyr ac 878 aelod o staff – mae saith teithiwr a phum aelod o staff wedi profi’n bositif.

Fe fu’r llong yn aros am rai diwrnodau i ddod i mewn i’r dociau.

Bydd unrhyw un sydd angen triniaeth ysbyty’n cael gadael y llong gyntaf, a bydd y rhai sy’n ddigon iach i hedfan adref yn cael gadael y dalaith heddiw (dydd Sul, Ebrill 5), tra bydd unrhyw un sydd â symptomau’n cael asesiad ar y llong.

Roedd y Coral Princess wedi bod yn cludo teithwyr o amgylch De America ac roedd disgwyl i’r daith ddod i ben ar Fawrth 19 yn Buenos Aires.

Ond fe fu ar y môr ers cryn amser oherwydd fod porthladdoedd yn cau a hediadau awyr yn cael eu canslo.

Mae teithwyr y llong wedi ynysu eu hunain ar y llong, ac mae prydau bwyd wedi cael eu cludo i’w hystafelloedd.

Mae aelodau’r criw wedi bod aros yn eu rhan nhw o’r llong pan nad ydyn nhw wedi bod yn gweithio.

Llongau yn yr Unol Daleithiau

Ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 4), fe gafodd llongau’r Zaandam a Rotterdam, oedd yn cludo 14 o bobol sâl, ganiatâd i ddod i’r lan yn Port Everglades yn Fort Lauderdale er mwyn cludo’r bobol hynny i’r ysbyty, tra bod eraill yn hedfan adref.

Mae Gwylwyr y Glannau’r Unol Daleithiau wedi bod ynghlwm wrth 120 o longau yn cludo tua 250,000 o deithwyr dros y tair wythnos ddiwethaf o ganlyniad i’r coronafeirws.

Hyd at ddoe, roedd 114 o longau yn cludo 93,000 o deithwyr naill ai mewn porthladdoedd neu yn nyfroedd yr Unol Daleithiau.