Mae dau o bobol wedi cael eu trywanu i farwolaeth, a nifer yn rhagor wedi’u hanafu, ger dinas Lyon yn Ffrainc.

Fe ddigwyddodd yr ymosod wrth i bobol fynd allan i siopa yn nhref fach Romans-sur-Isere am nwyddau hanfodol yn ystod gwarchae yn sgil y coronafeirws.

Cafodd yr ymosodwr honedig ei arestio gan yr heddlu yn yr ardal.

Dydy erlynwyr ddim wedi ei enwi hyd yn hyn, ond mae lle i gredu ei fod e’n dod o Swdan a’i fod wedi’i eni yno yn 1987.

Mae ymchwiliad ar y gweill.