Mae’r achos cyntaf o’r coronafeirws wedi’i gadarnhau ar ynysoedd y Malfinas.

Cafodd dyn ei gludo o safle’r Awyrlu i’r ysbyty ar Fawrth 31.

Dydy’r claf ddim wedi cael ei enwi, ond mae e mewn cyflwr sefydlog heb fod ar beiriant anadlu.

Yn ôl yr awdurdodau, maen nhw wedi cael digon o amser i baratoi ar gyfer yr achos cyntaf, gan sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o gyfarpar i drin cleifion.

Er bod pryderon ar yr ynys y gallai’r feirws ledu, mae’r awdurdodau’n hyderus fod ganddyn nhw gamau yn eu lle i warchod trigolion.

Maen nhw bellach yn ceisio adnabod unrhyw un a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r claf.