Mae trigolion Tsieina wedi bod yn cofio’r rhai fu farw o ganlyniad i’r coronafeirws, gyda thair munud o dawelwch.

Mae holl ddinasoedd y wlad wedi dod i stop.

Yn ninas Wuhan, a gafodd ei sefydlu i raddau helaeth gan Griffith John o Abertawe, yr oedd y golygfeydd mwyaf emosiynol – dyma’r ddinas gyntaf i gau ei ffiniau ym mis Ionawr.

Mae 11 miliwn o bobol yn byw yn y ddinas lle mae cyfyngiadau teithio llym, ond mae disgwyl i’r cwarantîn presennol ddod i ben ddydd Mercher (Ebrill 8).

Mae mwy nag 80,000 o achosion o’r feirws yn y wlad, a mwy na 3,000 o bobol wedi marw ers yr achos cyntaf ym mis Rhagfyr ond dydy’r union ffigurau ddim yn glir oherwydd diffyg profion a phobol yn gyndyn o adrodd am eu salwch.

Galaru

Mae ymgynnull i alaru fel cenedl yn ddigwyddiad prin yn Tsieina, ac mae’n dueddol o ddigwydd ar gyfer cofio’r rhai fu farw yn ystod rhyfeloedd yn erbyn Japan yn unig.

Daw’r galaru ddau ddiwrnod cyn gŵyl Qingming draddodiadol y wlad, lle mae pobol yn ymweld â beddau eu cyndadau.

Serch hynny, mae’r awdurdodau wedi gwahardd ymweliadau â beddau er mwyn atal pobol rhag ymgasglu mewn grwpiau.