Mae un o gyfansoddwyr caneuon soul enwocaf America wedi marw yn 81 oed.

Bill Withers wnaeth recordio’r clasuron ‘Lean on me’, ‘Ain’t No Sunshine’ a ‘Lovely Day’.

Yn ôl ei deulu bu farw’r canwr oherwydd problemau gyda’i galon.

Mae ‘Ain’t No Sunshine’ yn cael ei chyfrif ymysg y caneuon gorau erioed am dor-calon.

Ac mae ‘Lean On Me’ wedi dod yn anthem yn ystod creisus y corona, gyda phobol yn cyd-ganu’r gân o’u balconis.