Y Cyrnol Gaddafi
 
Mae’r Llys Troseddol Rhyngwladol yn cynnal trafodaethau anuniongyrchol gyda mab y Cyrnol Gaddafi ynghylch y posibilrwydd y bydd yn cyflwyno’i hun ar gyfer achos, yn ôl y prif erlynydd heddiw.

Yn ôl Luis Moreno-Ocampo roeddan nhw am gynnig sicrwydd i Saif al-Islam Gaddafi y byddai’n derbyn achos llys teg a bod modd dod o hyd i wlad newydd iddo fyw ynddi, pe bae’n cael ei ddyfarnu’n ddieuog.

Yn ôl adroddiadau roedd mab 39 oed Gaddafi yn ymlwybro trwy anialdir Mali.

Ym Mehefin cafodd Saif Gaddafi ei gyhuddo o lofruddio ac arteithio er mwyn rhoi taw ar y rhai oedd wedi gwrthwynebu Gaddafi ers mis Chwefror.

Yn ôl Moreno-Ocampo mae mab Gaddafi yn dweud ei fod yn ddieuog a’i fod yn mynd i brofi hynny.