Materion polisi’n cael eu trafod

Mae Leo Varadkar wedi dweud bod Fine Gael a Fianna Fail yn agos i gyrraedd cytundeb i ffurfio llywodraeth ac yn bwriadu dechrau cynnal trafodaethau gyda phleidiau llai.

Bu i’r ddau dîm negodi gyfarfod ddydd Mercher (Ebrill 1) i drafod polisïau llywodraethol ehangach.

Mae’r broses o ffurfio llywodraeth wedi bod yn araf ers canlyniad amhendant yr etholiad cyffredinol ar Chwefror 8.

Ac mae rhan helaeth o’r trafodaethau rhwng y ddwy blaid wedi ymwneud ag ymateb y wlad i’r pandemig coronafeirws.

Wrth siarad yn Nulyn ddoe, dywedodd Leo Varadkar: “Rydym yn cynnal trafodaethau gyda Fianna Fail ar hyn o bryd ac rydym yn gobeithio cytuno a’r ddogfen ar y cyd gyda nhw naill ai wythnos yma neu wythnos nesaf.

“Byddai hynny yn ein galluogi i ddechrau cynnal trafodaethau gyda phleidiau megis y Gwyrddion, Democratiaid Cymdeithasol a Llafur.”

Datganiad ar y cyd

Gwnaeth Fine Gael a Fianna Fail ddatganiad ar y cyd nos Fercher (Ebrill 1).

Dywed y ddau: “Mae Fine Gael a Fianna Fail wei cyfarfod brynhawn ’ma, ac wedi cael trafodaeth bositif ar faterion polisi.

“Mae’r ddwy blaid wedi cytuno i gadw’r dialog yn gyfrinachol ac mi fyddan nhw mewn cysylltiad yn ystod y dyddiau nesaf.”