Mae 864 o bobl wedi marw o coronafeirws mewn un diwrnod yn Sbaen, gyda’r cyfanswm ar gyfer y cyfnod bellach yn 9.053.

Heddiw (Ebrill 1), dywedodd awdurdodau iechyd Sbaen fod nifer yr achosion yn cyrraedd 100,000.

Bu 7,719 o achosion newydd yn y 24 awr ddiwethaf, sydd 1,500 yn llai na chynnydd y diwrnod cynt, gan gynnig gobaith bod yr haint yn arafu.

Mae rheolau wedi bod mewn grym ers pythefnos yn Sbaen sy’n atal pawb oni bai am weithwyr iechyd, gweithwyr cynhyrchu a dosbarthu bwyd, a gweithwyr hanfodol eraill rhag gadael y tŷ.

Mae’r wlad yn ceisio cynyddu’r nifer o unedau gofal dwys mewn ysbytai gan eu bod yn llenwi’n gyflym yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio waethaf ac maen nhw wedi cynyddu nifer y gwlâu mewn ysbytai 20%.

Bydd awdurdodau Sbaen yn dod a 1,500 o beiriannau anadlu i mewn i’r wlad ac yn gofyn i gynhyrchwyr lleol i gynyddu cynhyrchiant mewn ymdrech i ymladd yn erbyn y feirws.