Mae Iwerddon yn dechrau gweld budd o’r mesurau coronafeirws mae’r cyhoedd wedi ymgymryd yn ôl Gweinidog Iechyd y wlad, Simon Harris.

Dywedodd fod person oedd wedi ei heintio gyda choronafeirws bythefnos yn ôl, ar gyfartaledd, wedi bod mewn cysylltiad gyda 20 o bobl, ond mae’r rhif yna bellach wedi gostwng i dri.

“O ganlyniad i bobol yn aros gartref a chadw eu pellter, rydym yn ei gwneud hi’n anoddach i’r feirws ledaenu o un person i’r llall,” meddai.

“Dyna yw’r unig ffordd yr ydym am ei arafu, ac wrth ei arafu cyn gymaint a phosib, gallwn warchod ein gwasanaeth iechyd.”

Dywedodd y Gweinidog wrth RTE Morning Ireland y bydd hi’n cymryd 10 diwrnod i baratoi gwasanaethau lab ar draws Iwerddon.

Roedd yn cydnabod bod Llywodraeth y wlad o dan gyfyngiadau cyflenwad tebyg i wledydd eraill ledled y byd.

“Dyw’r sefyllfa rydym yn ei wynebu yma ddim yn unigryw i Iwerddon,” meddai.

“Rwy’n fodlon bod y gwasanaeth iechyd yn gwneud popeth sy’n bosib i gynyddu niferoedd y profion.”

Ddydd Mawrth (Mawrth 31) gwelodd Iwerddon y nifer mwyaf o farwolaethau mewn un diwrnod ers dechrau’r argyfwng coronafeirws.

Cafodd marwolaethau 17 o bobol – pedair dynes a 13 o ddynion – eu cadarnhau gan yr Adran Iechyd.

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn mynd â chyfanswm marwolaethau coronafeirws Iwerddon i fyny i 71.

Ar ben hynny, gwelodd ddydd Mawrth 325 o achosion newydd, gan gymryd y cyfanswm i 3,235.