Mae’r Arlywydd Trump wedi rhybuddio Americanwyr bod “uffern o bythefnos wael” yn wynebu’r wlad, ac yn rhagdybio bydd rhwng 100,000 a 240,000 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau oherwydd y coronafeirws, hyd yn oed os bydd pobol yn dilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol.

Daw’r rhybudd ar ôl tro pedol gan Donald Trump ar fesurau’r coronafeirws.

Dydd Mawrth cyhoeddodd Donald Trump byddai’n ymestyn y canllawiau ymbellhau cymdeithasol tan Ebrill 30, er mai’r bwriad oedd dod â nhw i ben ddiwedd mis Mawrth.

Hyd yn hyn mae 3,500 o Americanwyr wedi marw o’r firws, ac mae dros 170,000 wedi eu heintio.

 

“Rydyn ni’n mynd i golli miloedd o bobl.”

“Rydw i eisiau i bob Americanwr fod yn barod am y dyddiau caled sydd o’n blaenau,” meddai’r Arlywydd Trump.

“Bydd hwn yn un o’r pythefnos neu dair wythnos fwyaf garw rydyn ni erioed wedi’i gael yn ein gwlad, rydyn ni’n mynd i golli miloedd o bobl.”

Pwysleisiodd swyddogion iechyd y gallai’r nifer o farwolaethau fod yn llai pe bai pobl ledled y wlad yn dilyn y canllawiau sydd mewn lle.

“Rydyn ni wir yn credu y gallwn ni wneud llawer yn well na hyn,” meddai Dr. Deborah Birx, cydlynydd coronafirws y Tŷ Gwyn, gan ychwanegu bod angen i Americanwyr gymryd eu rôl o ddifrif wrth atal y clefyd rhag lledaenu.