Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi dweud ei fod yn ymestyn y cyfyngiadau yn yr Unol Daleithiau am fis wrth i nifer yr achosion a marwolaethau yn sgil coronafeirws gynyddu ar draws y wlad.

Roedd disgwyl i’r cyfnod 15 diwrnod o ymbellhau cymdeithasol ddod i ben heddiw (dydd Llun, Mawrth 30) ac roedd Donald Trump yn awyddus i lacio’r canllawiau cenedlaethol.

Ond yn hytrach mae o wedi penderfynu ymestyn y mesurau tan Ebrill 30, gan dderbyn ei fod wedi bod yn rhy optimistaidd.

Mae gan nifer o daleithiau a llywodraethau lleol fesurau llymach mewn grym.

Mae’r canllawiau ffederal yn cynghori yn erbyn casgliadau mawr o bobl ac yn annog pobl hŷn sydd â phroblemau iechyd i aros adref.

Mae pobl wedi cael eu hannog i weithio gartref lle mae hynny’n bosib ac osgoi bwytai, tafarndai, a mynd i’r siopau.

Mae’r ymestyniad yn golygu y bydd canllawiau ffederal mewn grym tu hwnt i Ebrill 12, pryd oedd Donald Trump yn gobeithio y byddai’r wlad a’r economi yn dechrau adfer.

Dywedodd swyddogion iechyd y byddai hyn y rhy gynnar o lawer.

Mae gan yr Unol Daleithiau dros 137,000 o achosion o’r coronafeirws, gyda dros 2,400 o farwolaethau hyd yma.