Mae’r Unol Daleithiau bellach wedi cofnodi mwy o achosion o’r coronafeirws na Tsieina.

Yn ôl ystadegau gan Brifysgol John Hopkins, roedd nifer y bobl sydd wedi’u heintio yn yr Unol Daleithiau wedi cyrraedd 82,000 ddydd Iau (Mawrth 26).

Mae hyn yn golygu fod gan yr Unol Daleithiau fwy o achosion na Tsieina, sydd â 81,000 o achosion, a’r Eidal sydd â 80,000 o achosion.

Serch hynny, mae ychydig dros 1,000 o bobl wedi marw o’r firws yn yr Unol Daleithiau, tra bod 8,000 wedi marw yn yr Eidal, mwy nag unrhyw wlad arall.