Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi dweud bod arno eisiau gweld yr Unol Daleithiau yn agored i fusnes o fewn wythnosau, yn hytrach na misoedd.

Mae’n honni y byddai cau parhaol yn arwain at fwy o farwolaethau na’r coronafeirws ei hun.

“Allwn ni ddim cael gwellhad sy’n waeth na’r broblem,” meddai Donald Trump wrth ohebwyr mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Llun (Mawrth 23).

“Mae’n rhaid i ni agor ein gwlad oherwydd mae hynny yn achosi problemau allai, yn fy marn i fod yn broblemau llawer iawn mwy.”

Aeth ymlaen i honni, heb unrhyw dystiolaeth, y byddai cau gweithfeydd a sefydliadau am fisoedd yn “debygol o achosi mwy o farwolaethau nag unrhyw beth rydym yn ei drafod ynghylch y feirws.”

Mae ei sylwadau yn dystiolaeth bellach bod Donald Trump wedi colli amynedd gyda’r pandemig, cyn iddo hyd yn oed gyrraedd ei anterth.

Ac yn y dyddiau diwethaf mae tensiynau wedi codi rhwng y sawl sydd yn dadlau fod angen i’r wlad rwystro dirwasgiad economaidd, a’r arbenigwyr meddygol sy’n rhybuddio, os nad yw’r llywodraeth yn gweithredu, bydd y gost ddynol yn erchyll.