Bydd Tsieina’n codi cyfyngiadau ar symud a gadael y tŷ yfory yn y rhan fwyaf o dalaith Hubei (dydd Mercher Mawrth 25).

Mae’r rhanbarth wedi bod o dan rym mesurau llym mewn ymdrech i frwydro’r coronafeirws.

Bydd pobl sydd wedi eu clirio yn cael gadael y dalaith am hanner nos heno.

Bydd mesurau llym yn parhau i fod mewn grym ninas Wuhan, lle dechreuodd y feirws ledaenu, tan Ebrill 8.

Rhwystrodd Tsieina bobl rhag gadael na mynd i mewn i Wuhan na’r dalaith ehangach ar Ionawr 23 wrth i’r coronafeirws ledaenu drwy’r wlad a dramor.

Dyw talaith Hubei prin wedi gweld unrhyw achosion newydd ers dros wythnos.