Mae’r canwr Kenny Rogers wedi marw’n 81 oed.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am ganeuon fel ‘Coward of the County’ a ‘The Gambler’, yn ogystal â deuawd gyda Dolly Parton, ‘Islands in the Stream’.

Bu farw yn ei gartref ar ôl bod yn derbyn gofal hosbis, meddai ei deulu wrth gadarnhau ei farwolaeth.

Fe gyhoeddodd ei ymddeoliad gyda thaith yn 2015, ond fe wnaeth e barhau i berfformio tan 2017.

Daeth un o uchafbwyntiau ei yrfa yn 2013 pan oedd e ymhlith y prif berfformwyr yng ngŵyl Glastonbury.

Ond bu’n rhaid iddo ganslo sawl gig yn 2018 yn sgil ei iechyd.

Bywyd a gyrfa

Cafodd Kenny Rogers ei eni a’i fagu yn Houston, Tecsas.

Cyrhaeddodd e frig y siartiau yn yr Unol Daleithau ugain o weithiau rhwng 1977 a 1987, a’r siartiau Prydeinig ddwywaith, gyda ‘Lucille’ yn 1997 a ‘Coward of the County’ yn 1980.

Cafodd ei dderbyn i’r Oriel Enwogion Canu Gwlad yn 2013, gan ennill Gwobr Cyfraniad Oes y Gymdeithas Canu Gwlad yn ystod yr un flwyddyn.

Teyrngedau

Wrth dalu teyrnged iddo, dywed gwobrau’r Golden Globes ei fod e’n “eicon canu gwlad”.

Ac yn ôl y Gymdeithas Canu Gwlad, mae Kenny Rogers “wei gadael ei ôl am byth ar hanes canu gwlad”.

Mae disgwyl iddo gael angladd teuluol preifat o ganlyniad i’r coronafeirws, ond bydd gwasanaeth coffa cyhoeddus yn cael ei gynnal yn y dyfodol.