Mae De Ewrop yn ei chael hi’n gynyddol anoddach i ymdopi yn sgil y pandemig coronafeirws, wrth i gleifion lenwi gwlâu yn ysbytai Sbaen a’r Eidal.

Mae 10,000 o bobl bellach wedi marw ledled y byd.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodi’r cyflymder dramatig mae’r feirws yn lledaenu, gan ddweud: “Fe gymerodd hi dri mis i gyrraedd 10,000 o achosion, a dim ond 12 diwrnod i gyrraedd y 100,000 nesaf.”

Ac maent wedi rhyddhau protocol newydd i helpu gwledydd adnabod graddfa’r haint ymysg eu poblogaethau, pa oedrannau sydd wedi eu heffeithio fwyaf a chanran y bobl sy’n heintiedig ond heb symptomau.

Yn Bergamo, canolbwynt y feirws yn yr Eidal, dyw mynwentydd ddim yn gallu dygymod â nifer y meirw.

Mae fideo o du mewn i brif ysbyty’r ddinas yn dangos cleifion yn methu cael eu gwynt wrth i ddoctoriaid a nyrsys symud o un i’r llall.

Fodd bynnag, daw gobaith o Wuhan, y ddinas yn Tsieina lle ddechreuodd y pandemig, wrth iddynt gyhoeddi nad oes unrhyw achosion newydd am yr ail ddiwrnod yn olynol.

Dim ond 39 achos newydd oedd yn Tsiena heddiw (dydd Gwener, Mawrth 20) – i gyd wedi dod o du allan i’r wlad yn ôl y llywodraeth.

Yn yr Eidal, sydd â 60 miliwn o ddinasyddion, mae 3,405 o bobl wedi marw, sy’n fwy na’r 3,248 a fu farw yn Tsieina, gwlad sydd â phoblogaeth ugain gwaith yn fwy.