Wrth i’r coronafeirws effeithio pob gwlad ar draws y byd mae Llywodraethwr Califfornia, Gavin Newsom, wedi gorchymyn bod trigolion y dalaith yn aros adre.

Mae wedi ehangu’r gwaharddiadau ar unrhyw deithiau sydd ddim yn angenrheidiol y tu allan i gartrefi pobl gan ddweud ei fod yn angenrheidiol i atal y coronafeirws rhag lledi.

Oni bai bod y camau yma yn cael eu cymryd, meddai Gavin Newsom, fe allai 56% o’r 40 miliwn o drigolion yn y dalaith gael eu heintio gyda’r firws dros yr wyth wythnos nesaf.

Dywedodd bod y firws ar fin rhoi pwysau sylweddol ar system feddygol Califfornia.

Mae gwaharddiadau tebyg mewn lle mewn gwledydd fel yr Eidal, Sbaen a chanolbarth Tsieina.

Mae’r fyddin yn yr Unol Daleithiau wedi sefydlu ysbytai milwrol dros dro er mwyn eu hanfon i ddinasoedd mawr fel Seattle, Washington, a Dinas Efrog Newydd ac mae ciwiau hir o yrwyr yn aros i nyrsys gynnal profion mewn safleoedd “gyrru drwodd”.

Mae o leiaf 205 o farwolaethau wedi cael eu cofnodi yn yr Unol Daleithiau hyd yn hyn a 14,000 wedi cael eu heintio.

Mae nifer o swyddogion cyhoeddus yn Iran, Brasil, Awstralia a gwledydd eraill wedi cael eu heintio gyda’r firws.

Yn yr Eidal mae 3,405 o bobl wedi marw sy’n fwy na’r 3,248 o farwolaethau yn Tsieina.

Mae 87% o’r rhai sydd wedi marw yn yr Eidal dros 70 oed.

Yn Tsieina, lle cafwyd yr achosion cyntaf o Covid-19 ym mis Rhagfyr, mae arwyddion bod y gwaharddiadau llym yn gweithio. Does dim heintiau newydd wedi bod am yr ail ddiwrnod yn olynol yn ninas Wuhan, canolbwynt i firws.