Mae rhagor o wledydd yn Affrica wedi cau ei ffiniau wrth i’r coronafeirws ledaenu drwy’r cyfandir o 1.3 biliwn o bobol.
Erbyn hyn, mae gan 34 allan o 54 gwlad Affrica achosion o’r feirws, gyda’r nifer o achosion yn agosau at 650.
“Oddeutu 10 diwrnod yn ôl, roedd gan bum gwlad y feirws,” meddai pennaeth y Sefydliad Iechyd y Byd yn Affrica, Dr Matshidiso Moeti. “
“Mae’n datblygu’n eithriadol o gyflym.”
Dyw hi ddim yn credu bod niferoedd mawr o bobl heintiedig yn mynd heb eu canfod yn Affrica.
Fodd bynnag, mae hi yn cydnabod bod yno brinder o becynau profi.
Mae gan 43 o wledydd Affrica’r gallu i brofi achosion, o gymharu â dwy wlad pan ddechreuodd y pandemig.