Mae Joe Biden wedi cipio tair talaith yn y ras am ymgeisyddiaeth y Democratiaid i fod yn arlywydd nesa’r Unol Daleithiau.

Fe ddaeth buddugoliaeth iddo dros Bernie Sanders yn Fflorida, Illinois ac Arizona, ac mae’r pwysau’n cynyddu ar Bernie Sanders i roi’r gorau i’w ymgyrch.

Ond cafodd gorsafoedd pleidleisio eu cau yn Ohio oherwydd y coronafeirws, ac mae’n bosib y gallai Louisiana, Georgia, Kentucky a Maryland ddilyn.

Yn dilyn ei fuddugoliaeth ddiweddaraf, mae’n ymddangos bod gan Joe Biden gefnogaeth bron ddwywaith nifer y cynrychiolwyr â’i wrthwynebydd i gipio’r ymgeisyddiaeth ar gyfer yr etholiad ym mis Tachwedd.

Mae Donald Trump eisoes wedi sicrhau’r hawl i fod yn ymgeisydd y Gweriniaethwyr.

Ac eithrio Gogledd Dakota ac Ynysoedd Gogleddol Mariana, dydy Bernie Sanders ddim wedi ennill yr un dalaith ers Dydd Mawrth Mawr ar Fawrth 3.

Neges Joe Biden

Mae Joe Biden wedi talu teyrnged i Bernie Sanders yn dilyn y canlyniadau diweddaraf.

Mae’n dweud iddo roi gofal iechyd a newid hinsawdd ar flaen y gad.

“Mae’r Seneddwr Sanders a’i gefnogwyr wei dod ag angerdd a gwytnwch rhyfeddol i’r holl faterion hyn,” meddai.

“Gyda’i gilydd, maen nhw wedi symud y sgwrs sylfaenol yn y wlad hon.

“Felly gadewch i fi ddweud, yn enwedig wrth y pleidleiswyr ifainc sydd wedi’u hysbrydoli gan y Seneddwr Sanders, dw i’n eich clywed chi.

“Dw i’n gwybod beth sydd yn y fatol.

“Dw i’n gwybod beth sy’n rhaid i ni ei wneud.”