Mae Joe Biden wedi curo Bernie Saunders yn nhalaith Washington, gan roi pum buddugoliaeth o’r chwe thalaith wnaeth bleidleisio dydd Mawrth diwethaf (Mawrth 10).

Wedi bron i wythnos o gyfrif pleidleisiau, roedd yn cyn is-arlywydd ar y blaen i Bernie Saunders fore dydd Llun, ac yn hwyrach yn y dydd daeth yn amlwg ei fod wedi ennill yn gyfforddus.

Roedd Washington yn dalaith oedd Bernie Saunders yn gobeithio ennill. Yn 2016, roedd wedi ennill dros ddau draean o’r cynrychiolwyr yn Washington dros Hillary Clinton.

Y pedair talaith arall enillodd Joe Biden dydd Mawrth oedd Missouri Mississippi, Michigan ac Idaho.

Tra bod Bernie Saunders wedi ennill yn North Dakota.

Mae tair talaith – Arizona, Illinois and Florida – i fod i gynnal pleidlais ddydd Mawrth (Mawrth 17) tra bod Ohio wedi gohirio ei phleidlais yn sgil pryderon coronafeirws.