Mae gobeithion Joe Biden, ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid, wedi pylu ar ôl i Ohio ohirio’r etholiad heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 17) oherwydd y coronafeirws.

Daw’r cyhoeddiad oriau’n unig cyn i orsafoedd pleidleisio agor.

Er hyn, mae swyddogion etholiad yn Fflorida, Arizona ac Illinois am barhau fel arfer.

Dyw’r etholiadau ddim wedi cael eu gohirio yn y fath fodd ers i Efrog Newydd ohirio etholiadau’r maer ar Fedi 11, 2011.

Roedd y Llywodraethwr Mike DeWine wedi gofyn am gael gohirio’r bleidlais, ond pan wrthododd y barnwr wneud hynny, cyhoeddodd cyfarwyddwr iechyd y dalaith argyfwng iechyd a fyddai’n rhwystro’r bleidlais rhag agor.

Mae’r datblygiadau diweddar yn creu math o ddryswch na chafodd ei weld mewn tymor etholiadol.

Y sefyllfa bresennol

Mae’r dirprwy arlywydd Joe Biden yn symud yn agosach tuag at sicrhau ei benodiad arlywyddol Democrataidd, ond gall brofi rhwystr os na fydd y pleidleiswyr hŷn yn dod i’w gefnogi.

Nid yw Bernie Sanders chwaith yn ystyried tynnu allan o’r ras, er ei fod yn edrych yn eithaf tywyll arno yr wythnos diwethaf yn Michigan, ac mae ganddo lawer o ffordd i fynd.

Mae ar ei hôl hi o gymharu â Joe Biden, a hynny o fwy na 150 o gynrychiolwyr yn cenedlaethol, sydd yn golygu y bydd angen 57% arno eto er mwyn gallu sicrhau’r enwebiad Democrataidd.

Mae Joe Biden, ar y llaw arall, yn canolbwyntio ar ennill yr enwebiad, gan annog y pleidleiswyr i ffonio neuadd y dref er mwyn gallu cymryd rhan, ond i wneud hynny’n ddiogel.