Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi dweud eu bod yn bwriadu dechrau cynnal profion clinigol i werthuso brechlyn coronafeirws.

Bydd y cyfranogwr cyntaf yn derbyn brechlyn arbrofol ddydd Llun (Mawrth 23), meddai swyddog ar ran Llywodraeth yr Unol Daleithiau.

Sefydliad Iechyd y Byd sydd yn ariannu’r profion, a fydd yn digwydd yng nghanolfan ymchwil Kaiser Permanente, yn nhalaith Washington.

Dywed swyddogion iechyd ei bod hi’n debygol o gymryd 18 mis i ddilysu unrhyw frechlyn yn gyflawn.

Yr Arlywydd Trump yn annog pobl i beidio pentyrru nwyddau

Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi annog y cyhoeddi i roi’r gorau i siopa am nwyddau mewn panig oherwydd pryderon am coronafeirws.

Daeth neges Donald Trump wrth i silffoedd archfarchnadoedd ar hyd a lled y wlad wagio, gyda phobl yn pentyrru nwyddau megis papur tŷ bach a bwydydd tun.

Mewn cynhadledd yn y Tŷ Gwyn dywedodd Donald Trump fod siopau yn cael trafferth cadw fyny gyda’r galw, ond fod “dim angen i neb yn y wlad bentyrru nwyddau.”

“Does dim angen i chi brynu cymaint,” meddai.

“Ymlaciwch, oherwydd mi fydd hyn i gyd yn pasio.

“Allwch chi gyd brynu ychydig yn llai, os gwelwch yn dda?”