Draig Goch Rio Grande
Mae tref yn yr Unol Daleithiau wedi paentio draig goch un o’u waliau er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u cysylltiadau Cymreig.

Roedd y prosiect yn rhan o gynllun gan Faer Rio Grande, Matt Easter, a roddodd her i’r brifysgol leol i greu cynllun er mwyn ddathlu cysylltiad Cymreig y dref.

Mae gan y tref, sy’n gartref i 950 o bobol, gysylltiad â Chymru sy’n mynd yn ôl i’r 1800 cynnar, pan symudodd setlwyr o Gymru i’r ardal yn ne talaith Ohio am y tro cyntaf.

Mae’r murlun, sy’n cynnwys elfennau o’r ddraig goch Gymreig, yn ymestyn ar draws y wal ger y swyddfa bost lleol at y briffordd.

Cynlluniwyd y murlun gan un o fyfyrwyr arlunio Prifysgol Rio Grande, ac fe’i paentiwyd gyda help dau fyfyriwr arall o’r un adran.

Dywedodd Matt Easter wrth bapur lleol y pentref, y Gallpolis Daily Tribune, iddo fynd at un o benaethiaid Ysgol Arlunio Rio Grande, Benjy Davies, yn gynharach yn y flwyddyn gyda’r syniad o gael murlun ar thema Gymreig.

“Roeddwn i wedi herio Benjy Davies, gan ddweud y bydden i’n hoffi gwneud rhywbeth, fel darlun ffres, cyffrous, a rhoi golwg newydd i’r wal… ac un o’r rheolau oedd gen i oedd bod yn rhaid iddo fod ar thema’r ddraig Gymreig, oherwydd bod hanes Rio Grande yn Gymreig iawn.”

Yn ôl Matt Easter, mae e’n hapus iawn gyda’r canlyniad, “mae’n olwg modern ar y fflag Gymreig, gyda holl elfennau’r ddraig Gymreig”.

Benjy Davies oedd yn gyfrifol am gydlynu’r prosiect, ac fe’i sylfaenodd ar gynllun gan y myfyriwr arlunio Justin Francisco. Cafodd y wal ei orffen gan gyd-fyfyrwyr Elizabeth Hamilton ac Emalea Neal dros benwythnos ym mis Medi.

Cafodd y prosiect ei ariannu gan weddill cyllideb prydferthu pentref Rio Grande ar gyfer 2011, yn ogystal â thrwy rodd gan Ganolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig ym Mhrifysgol Rio Grande.

“Mae’n wahanol iawn, mae’n edrych yn newydd iawn… ac ry’n ni’n falch iawn ohono,” meddai Matt Easter.

Yn ôl Lucy Thomas, myfyrwraig gyfnewid o Gymru sydd ym Mhrifysgol Rio Grande ar hyn o bryd, “mae’r darlun yn rhoi blas o adref i fyfyrwyr o Gymru yn ystod eu cyfnod yn Rio Grande”.

“Roedd hi’n sypreis braf iawn pan ddaeth Matt i Ganolfan Madog a dweud wrthon ni beth oedd yn mynd i ddigwydd,” meddai.

“Gyda’r holl faneri Cymru sydd o gwmpas Prifysgol Rio Grande ta beth, mae’n ffordd hyfryd i ddod â pheth o’r ysbryd Cymreig i’r brifysgol ac i’r gymuned, ac mae’r wal yn ychwanegu rhywbeth bach gwahanol i’r brifysgol sy’n neud i fi deimlo’n gartrefol wrth i mi fynd heibio.”

Cafodd Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig ym Mhrifysgol Rio Grande ei sefydlu gan fwrdd ymddiriedolwyr y brifysgol ym Mehefin 1996, ac mae wedi datblygu o Gymdeithas Gogledd America ar Gyfer Astudiaeth o Ddiwylliant a Hanes Cymru.