Mae Mike Pence wedi cyhoeddi gwaharddiad ar deithio o wledydd Prydain ac Iwerddon i’r Unol Daleithiau oherwydd coronavirus.

Daw’r cyhoeddiad yn fuan ar ôl i’r Arlywydd Donald Trump ddweud eu bod nhw’n “edrych ar y peth yn ddifrifol” a bod “cyhoeddiad i ddod”.

Daeth cadarnhad o’r gwaharddiad rai munudau’n ddiweddarach, a hynny ar ôl iddi ddod i’r amlwg ei fod e wedi cael ei brofi am y firws.

Mae Mike Pence yn dweud y bydd y gwaharddiad yn dod i rym o ganol nos, nos Lun (Mawrth 16) ar ôl “argymhelliad unfrydol” gan arbenigwyr meddygol y dylid ymestyn y gwaharddiad oedd eisoes yn ei le ar gyfer gwledydd lle bu achosion o’r firws.

“Gall Americanwyr yn y Deyrnas Unedig neu Iwerddon ddod adref, gall trigolion cyfreithlon ddod adref… byddan nhw’n cael eu cludo trwy feysydd awyr penodol a’u prosesu.”