Gallai Vladimir Putin aros yn Arlywydd Rwsia tan 2036, ar ôl llofnodi cyfraith sy’n newid cyfansoddiad y wlad.

Cafodd y mesur ei basio dridiau’n ôl, gyda dim ond un bleidlais yn ei erbyn.

Ond bydd rhaid i’r mesur gael sêl bendith y Llys Cyfansoddiadol mewn refferendwm ar Ebrill 22 cyn dod yn gyfraith gwlad.

Ar hyn o bryd, fyddai’r arlywydd ddim yn cael sefyll eto yn 2024.

Ond byddai’r ddeddf newydd yn ei alluogi i sefyll am dau dymor arall o chwe blynedd yr un.

Daeth e i rym yn 2000.

Mae cyfreithiau eraill dan ystyriaeth yn cynnwys amrywiadau ar gyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd, gwahardd priodasau o’r un rhyw a chyflwyno “credu yn Nuw” fel un o werthoedd craidd y wlad.