Mae digwyddiad i goffáu 51 o bobol a gafodd eu saethu’n farw mewn mosg yn Christchurch union flwyddyn yn ôl i fory (Mawrth 15) wedi cael ei ganslo yn sgil coronavirus.

Roedd disgwyl i filoedd o bobol ymgynnull yfory.

Ond mae wedi’i ganslo er mai chwech achos yn unig o’r firws sydd wedi’u cofnodi yn Seland Newydd.

Yn ôl y prif weinidog Jacinta Ardern, “ddylen ni dim creu risg o ragor o niwed” drwy gynnal y digwyddiad, er iddi gadarnhau ddoe y byddai’n mynd yn ei flaen er bod gŵyl arall yn Auckland wedi’i chanslo.

Mae’r ymosodiad brawychol wedi arwain at newid cyfreithiau’r wlad ar ddryllau, gydag oddeutu 60,000 o arfau wedi’u rhoi i’r awdurdodau yn sgil y ddeddfwriaeth.

Ac mae cyfreithiau am ddangos trais ar y we hefyd wedi cael eu haddasu.

Mae Brenton Tarrant, dyn 29 oed o Awstralia, wedi’i gyhuddo o’r ymosodiad, ac fe fydd e’n mynd gerbron llys ym mis Mehefin i wynebu cyhuddiadau o frawychiaeth, llofruddio a cheisio llofruddio.