Mae degau o filiynau o fyfyrwyr ar dri chyfandir gwahanol yn aros gartref er mwyn ceisio osgoi coronafeirws.

Ac mae gwraig Prif Weinidog Canada ac aelod o Gabinet Llywodraeth Awstralia ymysg y bobol amlwg sydd wedi dal yr haint.

Yn Sbaen mae 60,000 o bobol mewn pedair tref wedi eu gorfodi i aros yn eu cartrefi.

Drwyddi draw mae 5,000 o bobol y byd wedi marw a 137,000 wedi cael prawf positif am goronafirws.

Mae’r rhan fwyaf yn dioddef o symptomau bychan megis twymyn neu anwyd, ond mae’r rhai sy’n dioddef waethaf wedi cael pneumonia.

Mae’r haint wedi lledaenu yn Ewrop, Gogledd America, Asia a China.