Martin McGuinness
Mae pleidleiswyr yng Ngweriniaeth Iwerddon wedi bod yn dewis Arlywydd newydd heddiw, ac fe fydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi yfory.
Ymysg y cystadleuwyr mae’r seren teledu a’r dyn busnes Sean Gallagher, Martin McGuinness, dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, a Michael Higgins, ymgeisydd y Blaid Lafur.
Y mae wedi bod yn ras agored ond Sean Gallagher oedd y ceffyl blaen cyn i gyhuddiadau ddod i’r amlwg ei fod wedi cymell €5,000 am swper codi arian.
Mae Martin McGuinness wedi wynebu cwestiynau anodd dros ei orffennol yn yr IRA yn ystod y trafferthion yng Ngogledd Iwerddon. Mae wedi ei feirniadu’n llym gan deuluoedd pobol gafodd eu lladd gan yr IRA yn yr 80au.
Yn sgil trafferthion y ceffylau blaen mae’r bwcis wedi cwtogoi’r ods ar ethol un o hen lawiau’r Blaid Lafur, Michael Higgins, i 8-13.
Mae swydd Arlywydd Iwerddon yn un seremonïol a does dim grym yn perthyn iddi.