Mae barnwr yn yr Unol Daleithiau wedi gorchymyn y dylai Chelsea Manning gael ei rhyddhau o’r carchar ar ôl cael ei chadw dan glo ers mis Mai am wrth roi tystiolaeth i’r ymchwiliad WikiLeaks.

Mae’r barnwr Anthony Trenga wedi gorchymyn bod cyn-ddadansoddwr cudd-wybodaeth y fyddin yn cael ei rhyddhau ar ôl i’r erlyniad ddweud bod yr uchel reithgor wedi cael eu rhyddhau.

Mae disgwyl i wrandawiad gael ei gynnal ddydd Gwener (Mawrth 13).

Roedd Chelsea Manning, a gafodd addysg yn Hwlffordd, wedi dadlau ei bod wedi dangos nad oedd hi’n fodlon rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad ac y dylai gael ei rhyddhau.

Dywedodd ei chyfreithwyr ddydd Mercher (Mawrth 11) ei bod hi wedi ceisio lladd ei hun tra roedd hi yn y carchar yn Alexandria, Virginia.

Mae Chelsea Manning eisoes wedi treulio saith mlynedd mewn carchar milwrol am roi cudd-wybodaeth i sylfaenydd WikiLeaks, Julian Assange. Mae e’n brwydro ymgais i’w estraddodi o’r Deyrnas Unedig i’r Unol Daleithiau.