Gyda choronafeirws yn lledu ledled y byd, roedd defod cynnau’r fflam Olympaidd yn dipyn llai ysblennydd eleni.

Bob pedair blynedd mae’r fflam yn cael ei chynnau yn Nheml Hera, Gwlad Groeg; ac wedi hynny mae’n cael ei chludo ar ffagl o amgylch y wlad sy’n cynnal y gemau.

Japan sy’n cynnal y gemau eleni, ac er gwaetha lledaeniad y coronafeirws cafodd y ddefod gynnau ei chynnal yn ddidrafferth.

Ond, oherwydd pryderon iechyd, cafodd y cyhoedd ei gwahardd o’r seremoni a bu’n rhaid cwtogi’r nifer o swyddogion a newyddiadurwyr a gafodd eu gwahodd.

Fel arfer mae miloedd o bobol o sawl gwlad yn ymgynnull i wylio’r digwyddiad.

Er gwaetha’ llediad y feirws mae’r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol wedi mynnu y bydd y gemau yn cael eu cynnal yn Tokyo eleni (rhwng Gorffennaf 24 ac Awst 9).