Mae datblygwyr pŵer glo mewn risg o wastraffu cannoedd o biliynau o bunnoedd gan fod ynni adnewyddadwy bellach yn rhatach na glo.

Dyna yw neges adroddiad newydd gan y grŵp ymchwil amgylcheddol Carbon Tracker.

Ym marchnadoedd mwyaf y byd, mae hi eisoes yn costio llai i gynhyrchu pŵer wrth osod ffermydd gwynt neu solar nag agor gweithfeydd glo newydd.

Gallai hi fod yn rhatach erbyn 2030 i gynhyrchu trydan wrth adeiladu cyfleusterau adnewyddadwy na pharhau redeg gorsafoedd pŵer glo sy’n bod eisoes.

Yn y Deyrnas Unedig, mae isaf bris carbon, cwymp mewn galw a chymhorthdal ar gyfer ynni adnewyddadwy wedi symud dyddiad graddol ddiddymu’r system glo ymlaen i Hydref 2024.

O amgylch y byd, mae oddeutu 60% o byllau glo yn cynhyrchu trydan ar gost uwch na phŵer sy’n cael ei gynhyrchu o adeiladu a rhedeg cynlluniau adnewyddadwy, meddai’r adroddiad.

Mae Carbon Tracker yn galw ar lywodraethau a buddsoddwyr ohirio’r nifer eang o brosiectau glo sydd wedi eu cyhoeddi, eu caniatáu neu’n cael eu hadeiladu – neu wastraffu 638 biliwn o ddoleri (£495 biliwn) mewn buddsoddiad cyfalaf.

“Mae’r farchnad yn gyrru’r trawsnewidiad carbon-isel, ond dyw llywodraethau ddim yn gwrando,” meddai Matt Gray, Cyd bennaeth pŵer a gwasanaethau Carbon Tracker, a chydawdur yr adroddiad.

“Mae’n gwneud synnwyr economaidd i lywodraethau ohirio prosiectau glo yn syth a graddol ddiddymu’r gweithfeydd sydd eisoes yn bodoli.”