Mae Harvey Weinstein wedi cael ei garcharu am 23 o flynyddoedd am dreisio ac ymosod yn rhywiol ar ddwy ddynes.

Cafwyd e’n euog fis diwethaf o dreisio dynes mewn gwesty yn Efrog Newydd yn 2013, a chyflawni gweithred rywiol ar ddynes arall yn ei fflat yn 2006.

Fe wnaeth y ddwy roi tystiolaeth yn ystod yr achos llys.

Roedd e’n wynebu uchafswm o 29 o flynyddoedd dan glo.

Roedd e’n gwadu’r holl gyhuddiadau, gan honni bod unrhyw gyfathrach wedi digwydd trwy gydsyniad a bod ganddo fe berthynas dda â’r ddwy.

Roedd ei gyfreithwyr wedi bod yn pledio am ddedfryd lai oherwydd ei iechyd, ac mae disgwyl iddyn nhw apelio ar ei ran.

Mae disgwyl iddo fe wynebu rhagor o gyhuddiadau yn Los Angeles, wrth i’r heddlu yno ystyried tri chyhuddiad yn ei erbyn.