Mae’r offeiriad pabyddol uchaf erioed i’w gael yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant wedi troi at lys uchaf Awstralia i gyflwyno’i apêl.

Cafodd y Cardinal George Pell ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar y llynedd am gamdrin dau fachgen 13 mlwydd oed yn rhywiol yng Nghadeirlan St Patrick ym Melbourne tra’r oedd yn Archesgob y ddinas yn y 1990au hwyr.

Mae ei gyfreithwyr wedi dadlau yn yr Uchel Lys nad oes gan y dioddefwr honedig ddigon o dystiolaeth i brofi bod George Pell yn euog.

Cafwyd e’n euog drwy reithfarn unfrydol yn Rhagfyr 2018, ac roedd ei apêl cyntaf yn aflwyddiannus o fwyafrif o ddau i un fis Awst y llynedd.

Bu cyn-weinidog cyllid y Pab Ffransis yn dadlau yn yr Uchel Lys fod y ddedfryd yn afresymol ac nad oedd yr honiadau’n gallu cael eu cefnogi gan y mwy nag 20 o dystion i’r erlyniad, a oedd yn cynnwys gweinidogion, gweinwyr allor a bechgyn côr.

Dywed cyfreithiwr George Pell mai geiriau cyn-aelod o gôr, sydd bellach yn ei 30au ac yn magu ei deulu ei hun, oedd yr unig dystiolaeth ei fod e wedi cyflawni’r troseddau.

Aeth yn ei flaen i honni na fyddai hi wedi bod yn bosib profi bod George Pell wedi cyflawni’r troseddau pe na bai’r rheithgor wedi derbyn tystiolaeth Maxwell Potter a Charles Portelli.

Mae’r achos yn parhau.