Roedd ergyd i ymgyrch arlywyddol Bernie Sanders dros nos, wrth iddo golli tir i Joe Biden yn etholiad cychwynnol Michigan.

Roedd y dalaith yn allweddol i’r Democrat bedair blynedd yn ôl.

Ac roedd rhagor o lwyddiant i Joe Biden, wrth iddo hefyd gipio Missouri a Mississippi.

Mae’n ymddangos mai Joe Biden yw’r ffefryn ymhlith pleidleiswyr dosbarth gweithiol ac Americanwyr Affricanaidd, carfan o bobol sy’n cael eu hystyried yn hollbwysig i’r Democratiaid os ydyn nhw am guro Donald Trump a’r Gweriniaethwyr.

Dydy canlyniadau Idaho, Gogledd Dakota na Washington ddim wedi cael eu cyhoeddi hyd yn hyn, ond mae’r rhain hefyd yn hollbwysig i ymgyrch Bernie Sanders.

Dyma’r tro cyntaf i drigolion yr Unol Daleithiau bleidleisio ers Dydd Mawrth Mawr yr wythnos ddiwethaf, wrth iddi droi’n ras rhwng y ddau geffyl blaen.

Apêl gan Joe Biden

Yn ôl Joe Biden, fu’n siarad yn Philadelphia, mae ei ymgyrch “yn fyw iawn” erbyn hyn, ddyddiau’n unig ar ôl iddi ymddangos ei bod hi ar ben arno fe.

Mae e bellach yn galw ar gefnogwyr Bernie Sanders i’w gefnogi fe.

“Mae eich angen chi arnon ni, rydyn ni eich eisiau chi, ac mae lle yn ein hymgyrch i bob un ohonoch chi,” meddai.

“Rwy’ eisiau diolch i Bernie Sanders a’i gefnogwyr am eu hegni a’u hangerdd di-flino.

“Rydym yn rhannu nod gyffredin a gyda’n gilydd, fe drechwn ni Donald Trump.”