Mae biliynau o bunnoedd wedi cael eu colli o Fynegai’r 100 Cwmni (FTSE) wrth i’r gwrthdaro rhwng Sawdi Arabia a Rwsia ynglŷn â phris olew effeithio marchnadoedd stoc o gwmpas y byd.

Roedd y ddwy wlad wedi methu a dod i gytundeb ddydd Gwener (Mawrth 6) ynglŷn â chamau i godi prisiau olew.

Roedd Mynegai’r 100 Cwmni wedi gostwng mwy na 8% bore dydd Llun (Mawrth 9) gyda phris olew yn disgyn i’w lefel isaf ers Rhyfel y Gwlff

Erbyn 8:30 y bore roedd Mynegai’r 100 Cwmni wedi gostwng 8.6%, ac i lawr 558 o bwyntiau i 5903.34.

Dyma’r isaf mae bod wedi ers pedair blynedd, gan daro lefelau sydd heb eu gweld ers refferendwm Brexit yn 2016.

“Lladdfa”

“Bydd heddiw yn cael ei gofio fel dydd Llun du,” meddai Neil Wilson, prif ddadansoddwr Markets.com.

“Os oeddech chi’n meddwl na allai pethau fod yn waeth na phythefnos yn ôl, meddyliwch eto. Mae’n lladdfa llwyr allan yna.”

Roedd casgen o olew crai wedi gostwng 30%, gan setlo ar 25.8% a $33.60 y gasgen wrth i farchnadoedd Ewrop agor.

Gyda phris olew mewn doleri, cododd y bunt 0.7% yn erbyn y ddoler i 1.316 doler.

Bu i 15 o’r 100 cwmni golli dros 10% o’u gwerth o fewn y 30 munud cyntaf o fasnachu.