Mae adroddiadau fod dau aelod o deulu brenhinol Sawdi Arabia wedi cael eu harestio ar sail honiadau eu bod wedi cynllwynio i ddisodli’r Brenin Salman a’r Tywysog Coronog Mohammed bin Salman.

Yn ôl y papur newydd The Wall Street Journal, mae un o frodyr y brenin, y Tywysog Ahmed bin Abdulazziz al Saud, ac un o’i neiaint, y Tywysog Mohammed bin Nayef, yn y ddalfa.

Roedd y ddau ddyn wedi cael eu harestio yn eu cartrefi a’u cyhuddo o deyrnfradwriaeth, meddai’r papur.

Does dim sylw gan awdurdodau’r wlad ar hyn o bryd.

Mohammed bin Nayef oedd y tywysog coronog tan 2017, pan gymerodd y Brenin Salman y teitl oddi arno a’i roi i’w fab.