Mae Arlywydd Rwsia Vladimir Putin ac Arlywydd Twrci Recep Tayyip Erdogan, yn dweud eu bod nhw wedi dod i gytundeb er mwyn dod a’r brwydro yng ngogledd ddwyrain Syria i ben.

Dywedodd y ddau arweinydd y byddai cadoediad yn dod i rym yn Idlib am hanner nos nos Iau (Mawrth 5).

Ychwanegodd yr Arlywydd Putin ei fod yn gobeithio y byddai’r cytundeb yn dod a diwedd i ddioddefaint y dinasyddion ac yn helpu i atal argyfwng dyngarol.

Daeth y ddau i gytundeb wedi chwe awr o drafodaethau ym Moscow.