Wrth i haint y coronafeirws ledu ymhellach, mae Llywodraeth yr Eidal wedi gwahardd cefnogwyr rhag mynd i weld gemau chwaraeon.

Mae hyn yn golygu bod cynghrair pêl-droed Serie A yn debygol o ailddechrau ond mewn caeau gwag.

Mae disgwyl cyhoeddiad yn ystod yn y dydd y bydd y gêm rygbi chwe gwlad rhwng Lloegr a’r Eidal yn cael ei gohirio. Mae’r gêm a oedd i fod i gael ei chynnal yn y Stadio Olimpico yn Rhufain wythnos i ddydd Sadwrn yn debygol o gael ei chynnal yn hwyrach eleni. Roedd y gêm rhwng yr Eidal ac Iwerddon ddydd Sadwrn yma eisoes wedi’i gohirio.

O bob gwlad yn Ewrop, yr Eidal sydd wedi’i tharo gwaethaf, a hyd yma mae dros 3,000 wedi cael eu heintio yna ac mae dros 100 wedi marw.

Bydd y gwaharddiad i gefnogwyr yn para tan Ebrill 3.