Mae disgwyl i senedd yr Wcráin dderbyn ymddiswyddiad y prif weinidog Oleksiy Honcharuk ar ôl chwe mis yn unig yn y swydd.

Cynigiodd ei ymddiswyddiad yn wreiddiol ym mis Ionawr ar ôl iddo gael ei ddal ar dâp yn dweud nad oedd gan yr Arlywydd Volodymyr Zelenskiy unrhyw brofiad gwleidyddol blaenorol, ac nad oedd e’n gwybod dim am yr economi.

Roedd yr arlywydd wedi gofyn i’r prif weinidog aros yn ei swydd i ddechrau, ond dydy hi ddim yn glir beth yn union sydd wedi achosi i Oleksiy Honcharuk roi’r gorau i’w swydd nawr.

Dywedodd gwleidyddion y gallai’r newid arwain at sawl aelod allweddol arall o’r Cabinet yn colli eu swyddi.

Yn ôl plaid Gwas y Bobol (Servant of the People), mae disgwyl i Denys Shmygal olynu Oleksiy Honcharuk.