Cafodd Joe Biden, sy’n 77 oed, Ddydd Mawrth Mawr llwyddiannus wrth enill mewn sawl talaith yn y ras i fod yn ymgeisydd arlywyddol y Democratiaid dros nos.

Llwyddodd e i ennill yn nhaleithiau Tecsas, Massachussetts, Alabama a De Carolina.

Ond fe gipiodd Bernie Sanders, sy’n 78 oed, fuddugoliaeth yn nhalaith allweddol Califfornia.

Mae’n ymddangos erbyn hyn mai ras rhwng y ddau yma fydd hi o hyn ymlaen, wrth i Mike Bloomberg ennill Samoa Americanaidd yn unig, a chollodd Elizabeth Warren ym Massachussetts, ei thalaith ei hun.

Dydd Mawrth Mawr yw’r diwrnod mwyaf yn y ras, wrth i 14 o daleithiau bleidleisio dros eu hoff ymgeisydd.

Enillodd Joe Biden y nifer fwyaf o bleidleisio mewn taleithiau â niferoedd uchel o bobol groenddu.

Roedd Amy Klobuchar a Pete Buttigieg wedi cyhoeddi cyn Dydd Mawrth Mawr eu bod nhw bellach allan o’r ras.