Mae’n ymddangos bod Benjamin Netanyahu, prif weinidog Israel, yn brin o fwyafrif yn dilyn trydydd etholiad cyffredinol y wlad mewn llai na blwyddyn.

Mae disgwyl iddo fynd gerbron llys ganol y mis, wedi’i gyhuddo o dwyll.

Mae lle i gredu bod ei blaid, Likud, wedi ennill 59 sedd, dwy yn brin o fwyafrif, ac mae disgwyl i’w wrthwynebwyr ennill 61 er bod y brif wrthblaid ar ei hôl hi.

Serch hynny, mae’r prif weinidog eisoes wedi cyhoeddi “buddugoliaeth enfawr… yn erbyn y ffactorau”.

Mae’n gwadu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le ac yn dweud iddo gael ei dargedu’n fwriadol gan yr heddlu, erlynwyr a’r cyfryngau.

Pe na bai’n ennill mwyafrif, mae’n debygol mai clymblaid fyddai’r ateb i ansicrwydd gwleidyddol Israel.

Ond mae un o’r prif bleidiau eisoes wedi dweud na fydden nhw’n barod i gydweithio â Benjamin Netanyahu, tra ei fod yntau’n mynnu y byddai’n rhaid iddo arwain y glymblaid.