Mae’r Unol Daleithiau a’r Taliban wedi llofnodi cytundeb heddwch er mwyn dod â rhyfel Affganistan i ben.

Mae disgwyl i’r holl filwyr Americanaidd adael y wlad o fewn 14 mis, gyda’r nifer yn gostwng o 13,000 i 8,600 o fewn y pedwar mis nesaf.

Ond mae’r cytundeb yn ddibynnol ar y Taliban yn cadw at eu hymrwymiad i atal brawychiaeth, gan gynnwys rhyddhau carcharorion a dadarfogi – rhywbeth na all llywodraeth yr Unol Daleithiau fod yn sicr yn ei gylch.

Dyma’r rhyfel hiraf yn hanes yr Unol Daleithiau, ar ôl i George W Bush anfon milwyr i mewn i Affganistan yn dilyn yr ymosodiadau ar Fedi 11, 2001.

Daeth rheolaeth y Taliban i ben o fewn ychydig fisoedd, ac fe gafodd Osama bin Laden ei ladd ar ôl iddo fe ac al-Qaida ffoi dros y ffin i Bacistan.

Ond fe fu’r Unol Daleithiau’n ceisio ers blynyddoedd i sicrhau heddwch a diogelwch yn y wlad, wrth i’r Taliban ddal eu gafael ar fwy na hanner Affganistan.

Mae mwy na 750bn o ddoleri wedi’u gwario ar y rhyfel, gyda degau o filoedd o fywydau wedi’u colli.