Mae rali fawr tros annibyniaeth yn cael ei chynnal ar ochr Ffrengig Catalwnia fel bod y cyn-arlywydd Carles Puigdemont yn gallu bod yn bresennol.

Slogan y rali yw “gweriniaeth wrth galon y byd”.

Mae Carles Puigdemont, sydd bellach yn Aelod Seneddol Ewropeaidd, wedi ffoi o ran Sbaenaidd Catalwnia yn sgil cael ei erlyn am ei ran yn refferendwm annibyniaeth 2017.

Bydd e’n sefyll yn yr etholiad nesaf yng Nghatalwnia dan faner ‘Gyda’n Gilydd tros Gatalwnia’, er nad oes dyddiad wedi’i bennu eto.

Mae Quim Torra, arlywydd presennol Catalwnia, yn cymryd rhan yn y rali ochr yn ochr â gwleidyddion eraill.

Roedd y trefnwyr yn gobeithio denu torf o fwy na 70,000 o bobol.

Cael a chael fyddai hi pe bai Catalwnia yn cynnal refferendwm annibyniaeth ar hyn o bryd, yn ôl y polau diweddaraf.