Mae ymgyrch arlywyddol Donald Trump yn dwyn achos yn erbyn y New York Times.

Maen nhw’n dadlau bod y papur newydd wedi pardduo arlywydd yr Unol Daleithiau drwy gyhoeddi traethawd gan gyn brif-olygydd yn honni bod cytundeb rhwng ei dîm arlywyddol a Rwsia er mwyn trechu Hillary Clinton yn 2016.

Mae’r achos yn ymwneud â datganiadau’n pardduo’r arlywydd wrth honni bod cytundeb gydag “oligarchiaeth Vladimir Putin” i drechu’r Democratiaid.

Mae papurau cyfreithiol yn rhoi’r bai ar y papur newydd am y datganiadau yn yr erthygl gan Max Frankel, oedd yn honni bod cytundeb “quid pro quo” yn ei le a fyddai’n cyfnewid gwybodaeth am Hillary Clinton am bolisi tramor newydd ar gyfer Rwsia.

Roedd Max Frankel yn olygydd gweithredol y paur newydd rhwng 1986 a 1994.

Mae papurau cyfreithiol yn honni bod y New York Times yn cydnabod anwiredd datganiadau yn yr erthygl, ond eu bod nhw wedi eu cyhoeddi beth bynnag oherwydd “tuedd eithriadol yn erbyn yr ymgyrch ac atgasedd ati” ac ymgais i “ddylanwadu’n amhriodol ar yr etholiad arlywyddol fis Tachwedd 2020”.

Mae cyfreithwyr ar ran yr ymgyrchwyr yn ceisio iawndal, yn ogystal â chyhoeddi’r gwirionedd ac i roi’r wybodaeth gywir i ddarllenwyr a gweddill y byd.

‘Barn annerbyniol’

Yn ôl llefarydd ar ran y New York Times, mae ymgyrchwyr ar ran Donald Trump “wedi troi at y llysoedd i geisio cosbi awdur barn am fod â barn sydd yn annerbyniol iddyn nhw”.

“Yn ffodus, mae’r gyfraith yn amddiffyn hawl Americanwyr i fynegi eu safbwyntiau a’u casgliadau, yn enwedig am ddigwyddiadau o bwys i’r cyhoedd.

“Edrychwn ymlaen at amddiffyn yr hawl yn yr achos hwn.”