Fe fydd Pedro Sanchez, prif weinidog Sbaen, a Quim Torra, arweinydd Catalwnia, yn cynnal trafodaethau yn y gobaith o ddatrys argyfwng gwleidyddol y ffrae tros annibyniaeth i Gatalwnia.

Mae Pedro Sanchez ac aelodau o’i lywodraeth yn croesawu Quim Torra a’i ddirprwyaeth i Balas Moncloa ym Madrid heddiw (dydd Mercher, Chwefror 26).

Does dim disgwyl unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol o’r cyfarfod heddiw.

“Heddiw byddwn yn dechrau ein trafodaethau, ac mae’r ffordd ymlaen yn mynd i fod yn anodd, cymhleth a hirfaith,” meddai Pedro Sanchez.

Pynciau trafod

Mae Quim Torra wedi dweud y bydd o’n ailadrodd ei orchymyn fod Catalwnia’n cael caniatâd i gynnal refferendwm cyfreithlon ar annibyniaeth.

Bydd hefyd yn mynnu bod y naw arweinydd o Gatalwnia, sydd o dan glo am eu rôl yn yr ymdrech ymwahanu yn 2017, yn cael eu rhyddhau.

Mae Pedro Sanchez wedi addo na fydd ei lywodraeth yn ystyried cynnal pleidlais ar annibyniaeth.

Dywed, yn hytrach, ei fod yn bwriadu canolbwyntio ar wella’r berthynas rhwng Sbaen a Chatalwnia.

Yn ôl polau opiniwn, mae oddeutu 50% o’r 7.5 miliwn o bobol sy’n byw yng Nghatalwnia o blaid annibyniaeth.