Mae gwasanaeth wedi’i gynnal i ddathlu bywydau’r seren pêl-fasged Kobe Bryant a’i ferch 13 oed, Gianna.

Fe wnaeth 20,000 o bobol ymgynnull i dalu teyrnged i’r ddau oedd ymhlith naw o bobol fu farw pan blymiodd hofrennydd i’r ddaear fis diwethaf.

Ymhlith y rhai oedd wedi talu teyrnged roedd y cyn-chwaraewr pêl-fasged a ffrind agos, Michael Jordan, a ddywedodd fod rhan ohono “wedi marw pan fu farw Kobe Bryant”.

Perfformiodd Beyonce, Alicia Keys a Christina Aguilera yn ystod y seremoni.

Ymhlith yr enwogion yn y gynulleidfa roedd Kanye West a Kim Kardashian, Jennifer Lopez, Snoop Dogg, a’r chwaraewyr pêl-fasged Stephen Curry, Kareem Abdul Jabbar a Magic Johnson.

Bydd yr holl elw o’r digwyddiad yn mynd at elusen sy’n helpu plant o gefndiroedd difreintiedig, yn enwedig merched, i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Teyrnged Vanessa Bryant

Siaradodd Vanessa Bryant, gwraig Kobe a mam Gianna, yn ystod y gwasanaeth.

“Allwn i ddim ei weld e fel seleb, na chwaith yn chwaraewr pêl-fasged rhagorol,” meddai am ei gŵr.

“Fe oedd fy ngŵr addfwyn a thad hyfryd i’n plant.

“Fe oedd popeth i fi – dw i a Kobe wedi bod gyda’n gilydd er pan o’n i’n 17 a hanner mlwydd oed.

“Fi oedd ei gymar cyntaf, ei gariad cyntaf, ei wraig, ei ffrind gorau, ei ymddiriedwr a’i amddiffynnwr.”

Talodd hi deyrnged emosiynol i’w merch wedyn.

“Roedd Gigi yn gystadleuol iawn, fel ei thad, ond roedd gan Gianna urddas annwyl,” meddai.

“Roedd ei gwên fel heulwen.

“Roedd ei gwên yn llenwi ei hwyneb, fel fy un i.

“Roedd Kobe bob amser yn dweud mai hi oedd fi. Roedd ganddi fy nhân, fy mhersonoliaeth a’m coegni, roedd hi’n dyner ac yn gariadus ar y tu fewn.

“Roedd ganddi’r chwerthiniad gorau, ac roedd yn heintus, yn bur ac yn ddidwyll.”