Mae trydydd person wedi marw o’r coronavirus ar ôl bod yn teithio ar long y Diamond Princess yn Japan, yn ôl llywodraeth y wlad.
Mae 57 o achosion newydd o’r firws yn Japan, gan gynnwys 55 aelod o griw’r llong a dau deithiwr mewn cwarantîn hirdymor.
Mae 691 o bobol wedi’u heintio ar y llong erbyn hyn – bron i un o bob pump o bobol ar ei bwrdd.
Mae 838 o achosion wedi bod yn Japan erbyn hyn.
Dyn yn ei 80au yw’r person diweddaraf i farw o ganlyniad i’r firws yn y wlad.